Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 19 Ebrill 2018
Amser:
09.31 -
14.10
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4819
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Jayne Bryant AC Angela Burns AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC Julie Morgan AC Lynne Neagle AC |
Tystion: |
Dr Nalda Wainwright, Athrofa Llythrennedd Corfforol Cymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Professor Simon Murphy, Prifysgol Caerdydd Yr Athro Mark Hanson, Prifysgol Southampton Sarah Powell, Chwaraeon Cymru Graham Williams, Chwaraeon Cymru Fiona Reid, Chwaraeon Anabledd Cymru Michelle Daltry, Chwaraeon Anabledd Cymru Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru Emma Curtis, Comisiynydd Plant Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Claire Morris (Clerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Amy Clifton (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AC.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Nalda Wainwright, Sefydliad Llythrennedd Corfforol Cymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yr Athro Simon Murphy, Prifysgol Caerdydd a'r Athro Mark Hanson, Prifysgol Southampton.
2.2 Cytunodd yr Athro Simon Murphy i ddarparu rhagor o wybodaeth am y darpariaethau sydd ar gael mewn ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig sy'n gysylltiedig â chanlyniadau da mewn perthynas â lefelau gweithgaredd corfforol.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Chwaraeon Cymru.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Chwaraeon Anabledd Cymru.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru.
6.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)
6.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â Chaffael Contract y Fframwaith Systemau GMC.
6.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â Chaffael Contract y Fframwaith Systemau GMC.
6.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â'r ddeiseb P-05-804 Mae Angen Cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Chwarae!!
6.5a Nododd y Pwyllgor y trawsgrifiad o'r we-sgwrs.
7.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
9.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a bydd yn trafod ymhellach mewn cyfarfod yn y dyfodol.
10.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth yn ymwneud ag adnoddau ar gyfer craffu ar Brexit.